Cantorion & Symphonica Tywi
Cyflwyniad >> Digwddiadau diweddar
Cliciwch
yma am
ddigwyddiadau yn 2009 ac yn gynharach
Digwyddiadau
diweddar:
Sadwrn Rhagfyr 17eg, 2011: Cyngerdd y Nadolig
Atgoffwyd y gynulleidfa yn y rhaglen gan Mike Cottam, bod amser i'r teulu perthnasau a ffrindiau, hen a newydd, yw'r Nadolig. Cadarnhaodd y Gyngerdd Nadolig, unwaith eto, bod y gynulleidfa yn chwarae rhan holl bwysig yn y teulu unigryw cerddorol.
Agorwyd y noswaith gab ffanffer yr offerynnau pres. Dilynwyd hyn gan y gynulleidfa yn ymuno â'r cor i ganu "Adeste Fideles". O hyn ymlaen cafwyd noswaith hwylus o ganu: Veni Emmanuel (Elgar) gan y cor; Eirian Davies, bariton yn canu 'I got plenty of Nuttin' ' (Gershwin) a datganiad swynol o 'Once in Royal david's City' gan y trebl ifanc Tiffany Edwards.
IYn yr egwyl roedd mins peis a phwnsh i bawb. Nid yw'r tywydd byth yn rhwystro ffrindiau ac er y glaw trwm tu allan roedd yr eglwys yn llawn.
Gorffennwyd y gyngerdd gyda datganiad o 'Hark the Herald' ac addewidion i gwrdd yn 2012.
Nos Sadwrn Hydref 29ed, 2011: Mozart - Coronation Mass
Er ei bod yn noswaith stormus tu allan, tu fewn i Eglwys Sant Cadog Llangadog cafodd y gynulleidfa o dros cant noswaith i'w gofio. Cafodd y perfformiad o'r Coronation Mass gan Mozart a'r Magnificat gan Rutter gymeradwyaeth gwresog gan y gynulleidfa. Mae eisiau fwy na gwynt cryf i rhwystro pobl Dyffryn Tywi. Roedd y cor a'r gerddorfa yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth.
Sadwrn Mai 7ed 2011: Sel bwrdd yn Llanwrda
Ar ôl wythnos brysur ar yr hwstyngau, gwnaeth Jonathan Edwards A. S. dros Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, amser i ddod i Lanwrda i agor y sel gymunedol gyntaf. Roedd gan Cantorion Tywi stondin i godi arian i’r côr.
Jonathan Edwards yn cwrdd â’r Parchedig Mike Cottam a eglurodd yr angen i godi arian,
Mike, gyda aelod o’r côr Pat Lee, hefyd o Llanwrda Bloomers.
Photo: Ken Day http://kendayphotography.com
Nos Sul, Ebrill 3 a Nos Sadwrn, Ebrill 16, 2011: Karl Jenkins - Stabat Mater
Roedd Ebrill yn fis prysur iawn i’r côr a’r gerddorfa. Perfformiwyd STABAT MATER gan Karl Jenkins yn Eglwys Sant Cadog, Llangadog ar Ebrill 3ydd ac hefyd cawsant wahoddiad i berfformio’r un gwaith yn Eglwys Crist, Caerfyrddin ar 16eg o Ebrill.
Yr arweinydd Mike Cottam gyda Symphonica a Chantorion Tywi.
Y Maer a’r Faeres, Alan a Stephanie Speake, gyda’r arweinydd Mike Cottam, blaenwr y gerddorfa Rhys Watkins a’r mezzo soprano Eleri Owen Edwards.
Photo: Ken Day http://kendayphotography.com
Nos Sadwrn, Ionawr 15fed 2011: Dathliad !
Trechwyd gan y Tywydd:
Am y tro cyntaf mewn un mlwyddyn ar bymtheg bu rhaid canslo cyngerdd Cantorion a Symffonica Tywi o dan arweiniad Mike Cottam oherwydd y tywydd gaeafol. Ar nos Sadwrn, Ionawr 15fed yn Eglwys Llangadog cynhaliwyd cyngerdd i ddathlu 2011.
Roedd y goleugylch ar yr artisiaid: Rebecca Mahon, soprano, disgybl yng Ngholeg Llanymddyfri, Eirian Davies, baritôn, aelod o adran wyddoniaeth yn Ysgol Gyfun Ystalfera, Tiffany Edwards, trebl, sydd ond deg oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd, Cenarth.
Perfformiwyd
“Y Teipiadur” gan Cliff Hyde ar hen Olivetti a bu Nessa Cheesman yn chwarae
ffefrin y plant “Tubby y Tuba” ar y tuba. O
dan arweinyddiaeth Owen Morgan perfformiodd y gerddorfa ddarnau gan Eric Coates,
Johann Strauss a Sir Hubert Parry. Ymunodd y côr gyda’r gerddorfa mewn
rhaglen o ganeuon poblogaidd iawn. Yn
y “The Dam Busters March”, “O Deued Pob Cristion” a “

Erian
Davies, Rebecca Mahon a Tiffany Edwards
Cymaint o hwyl a difyrrwch â Chyngerdd Nadolig!
Cynhaliodd
y côr a'r gerddorfa gyngerdd ar y thema 'Rhyfel ac Heddwch' yn eglwys Sant
Cadog, Llangadog. Roedd y rhaglen yn
cynnwys 'Dona Nobis Pacem' gan Vaughan Williams, darnau o 'The Armed Man' gan
Karl Jenkins, 'Cantique de Jean
Beshlie
Thorp ac Eirian Davies oedd yr unawdydd.

Back row: Orchestra Leader, Mr Rhys Watkins and Conductor, Rev. Mike Cottam.
Mayor and Mayoress of Llandovery, Mr and Mrs Nigel Burgess, Deputy Mayor of Llandeilo, Mrs Julia Jones.
Front row, right, soloists: Beshlie Thorpe and Eirian Davies.
Rhoddwyd
gyngerdd o fiwsig clasurol a phoblogaidd gan y gerddorfa yn uchel bwyntio ar
bedair adran o Gerddorfa Simffonig: Y llinynnau, pres, cerddbrenni ac offer
taro, yn eglwys Sant Cadog, Llangadog.
Copland: Fanfare for the Common Man - Sibelius: Andante Festivo - Faulkner: Three Pieces for 2 Oboes and Cor Anglais - Bach:Double Violin Concerto - "Sister Kate" - Handel: Music for the Royal Fireworks - Motzart: Musical Joke - Bach: Brandenburg Concerto No. 3, 1st mov. - Greaves: Beethoven 5th Bossa Nova - Tchaikovsky: Waltz from the Serenade for Strings - Bratton: The Teddy Bear's Picnic - Tchaikovsky: Symphony No 4 Finale.
|
|
|
Gorffennaf,
2010: Serenâd yr Haf
Dydd
Gwener, 30ain o Orffennaf cynhaliwyd noswaith gymdeithasol yr Haf lle croesawyd
ffrindiau’r côr a’r gymuned.
Roedd
yn noson lwyddiannus dros ben gyda’r adloniant gan y côr ac unigolion.
Hoffai’r pwyllgor ddiolch i bawb a gyfrannodd i’r bwyd blasus i gwblhau noswaith o hwyl a cherddoriaeth ysgafn.






Ebrill 25, 2010; Cyngerdd Gwanwyn
Perfformiodd y côr a’r gerddorfa “German Requiem” gan Brahms yn Eglwys Grist, Caerfyrddin. Yr unawdwyr oedd Aled Edwards, bas baritone a Rebecca Mahon, soprano. Hefyd perfformiodd y gerddorfa Pedair Dawns Slavonic gan Antonin Dvorak.
Cyflwyniad >> Digwddiadau diweddar