Cantorion & Symphonica Tywi

Cymraeg English

Cyflwyniad     Y côr      Y gerddorfa  Prynwch y CD     Cyswllt      Cysylltiadau 


Cyflwyniad i’r Côr.

Sefydlwyd y côr ym 1992 pan ddaeth Mike Cottam, ein harweinydd i Langadog. Ar hyn o bryd mae gan y côr 45 o aelodau sy’n dod o drefi a phentrefi trwy Ddyfryn Tywi.  Mae’r côr yn unigryw o fod yn gôr amatur a cherddorfa ei hun.

Arian

Mae angen arian i greu perfformiad ac fel grwp gwirfoddol mae’n rhaid i’r côr godi arian, bob blwyddyn, drwy danysgrifiadau a chynnal digwyddiadau cymdeithasol. Nod y Cyfarwyddwr Cerddorol, bob amser, yw i ddefnyddio’r artistiaid gorau ac i logi darnau cerddoriaeth i tua phum deg o offerynnwyr.  Tipyn o gamp! Dyw prisiau’r tocynnau ddim yn ddigon i ateb  cyfanswm y traul ariannol trwm. Mae plant, o dan 14, yn cael dod am ddim ac mae tocynnau consesiwn ar gael gyda thocynnau oedolion. Rydyn ni mewn dyled i’r P.C.C Eglwys Sant Cadog, Llangadog am eu caniatad hael am ryddid i ddefnyddio’r eglwys am bris resymol.

Mae’n costi dim ond £10.00 am y flwyddyn, i ddod yn Ffrind sy’n cynnwys cyfleusterau i archebu o flaen llaw, i gael gwahoddiad i ddigwyddiadau cymdeithasol a llythyr newyddion dwy waith y flwyddyn. Yn y cyngerdd nesa, edrychwch am y ffurflen sy’n egluro sut i ddod yn Ffrind.  Bydd y manylion yn y rhaglen, neu anfonwch e-bost at Jean jean12@btconnect.com

Ein harweinydd

Ficer Llangadog, Gwynfe a Llanddeusant yw Mike Cottam. Roedd e’n Gaplan Amaethyddol i’r esgobaeth yn Nhŷ Ddewi a Chaplan i Goleg Llanymddyfri.  Sefydlodd y gerddorfa a’r côr pan ddaeth e i Langadog, undeg saith o flynyddoedd yn ôl, ar ôl ei ordeiniad.  Cyn hynny, roedd ei yrfa mewn amaethyddiaeth, yn rheoli gyrroedd mawr o wartheg godro a ffermydd tir llafur yn Canada, Lloegr a gorllewin Cymru, yn y diwedd fel rheolwr ystad Castell Picton, Sir Benfro.  Mae cerddoriaeth mewn rhyw ffordd wedi bod fel calon gadarn trwy ei fywyd.

Mae Mike wedi bod yn aelod o gôr ers yn chwech oed ac mae e wedi ymddiddori mewn arwain ers hynny – doedd ei fam byth yn gallu ffeindio ei nodwyddau gwau.

Mae e wedi bod yn organydd o gôr eglwys gadeiriol fel bachgen ac oedolyn yn Leicester, Peterborough , Montreal a Tŷ  Ddewi. Mae wedi bod yn organydd mewn saith eglwys, wedi sefydlu grŵp roc o’r enw “Empty Pockets” yn Sir Benfro, Cadeirydd a Chyfarwyddwr cerddoriaeth o Gymdeithas Operatig Hwlffordd, a Chyfarwyddwr cerddoriaeth o Gantorion a Symphonica Tywi, wedi sefydlu’r ddau pan gyrhaeddodd e yn Llangadog.  Hefyd, mae’n gyn aelod o “Summer Singers” a sefydlwr o “Frenzaloud” grŵp ‘a capella’ lleisiol.

Mae Mike yn chwarae organ, piano, tsielo a bas recorder yn frwdfrydig ond amatur yw e.  Gyda aelodau o’r gerddorfa a’r côr cymerodd Mike rhan mewn cyfres dogfennol o’r enw “Valley of Song” a gafodd eu ffilmio dros 19 mis ar ôl cynllun peilot yn 2004.  Mae e’n meddwl bod y cyfeillgarwch sy wedi cael eu ffurfio trwy’r blynyddoedd yn y côr a’r gerddorfa fel rhai o’r nodweddion mwya gwerthfawr yn ei fywyd.  Mae e’n briod â Caroline ac mae pedwar o blant a phedwar o wyrion gyda nhw.