Cantorion & Symphonica Tywi

Cymraeg English

Cyflwyniad     Y côr      Y gerddorfa  Prynwch y CD     Cyswllt      Cysylltiadau 


 

Cyflwyniad i’r gerddorfa

Cafodd y gerddorfa ei sefydlu ym 1992 pan ddaeth Mike Cottam, ein harweinydd, i Langadog.  Mae 35 o aelodau gyda’r gerddorfa sy’n dod o drefi a phentrefi o gwmpas Dyffryn Tywi ac ym mhellach.

Am broffil o’r arweinydd, gwelwch ein Tudalen Gôr

 

Yr Arweinydd : Rhys Watkins

Mae gyda Rhys gysylltiadau cryf gyda Dyffryn Tywi lle gaeth ei fam ei magi.  Mae ei dad Stuart yn enwog fel cyn chwaraewr Rygbi Rhyngwladol.

Mae Rhys, gyda nifer o ein chwaraewyr oedolion ifanc, yn aelodau ers sefydlu  Symphonica Tywi.  Mae Rhys wedi arwain y Gerddorfa Plant Genedlaethol, y Gerddorfa Ysgolion Uwchradd Caerdydd a’r Gerddorfa Iau Sir De Morganwg. Mae e wedi bod yn ymgeisydd terfynol rhanbarthol yn y cystadlaethau Audi a Cerddor Ifanc Texaco. Ym 1998 enillodd Rhys mynediad i mewn i’r ysgol o gerddoriaeth enwog Chetam ym Manceinion lle astudiodd e o dan yr Athro Wen Zhou Li yn arwain cerddorfa’r ysgol mewn cyngerdd yn y Coleg o Gerddoriaeth Royal Northern. Pan oedd yn ‘Chets’ mynychodd e sawl dosbarth meistr yma yn y wlad hon ac yn Ffrainc.

Wedyn aeth e ymlaen i astudio yn y ‘Royal Academy of Music’ o dan Mateja Marenkovich lle llwyddodd e i gael gradd dosbarth cyntaf. Yn ystod yr adeg honno, chwaraeodd e mewn sawl cyngerdd gan gynnwys un fel yr unawdydd yn y Tchaikovsky ‘Violin Concerto’ .  Perfformiodd e’r un gwaith gyda Symphonica Tywi yn mis Ebrill 2005. .

Chwaraeodd Rhys rhan flaenllaw yn y rhaglen ‘ Valley of Song ’ i’r BBC.  Mae e’n seiliedig nawr yn Llundain ac mae e’n aelod o’r Gerddorfa Symphonig Llundain ac yn y Pedwarawd Tant Artea.